Gwlad yr Addewid
Parthian Books (Verlag)
978-1-910409-00-8 (ISBN)
- Keine Verlagsinformationen verfügbar
- Artikel merken
Yn 1988, ysgrifennodd Ed ei ddrama gyntaf, House of America. Enillodd y ddrama sawl gwobr fel drama a ffilm (1996), yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ei ddramau eraill yn cynnwys Flowers of the Dead Red Sea (1991), East From the Gantry (1993), Song From a Forgotten City (1995), Gas Station Angel (1998) a Stone City Blue (2004). Maent wedi teithio'n fyd-eang gan gynnwys Prydain, Ewrop, Awstralia a De America, i theatrau'n cynnwys The Royal Court, Donmar Warehouse a'r Tramway, Glasgow. Maent wedi eu cyfieithu i dros ddeg o ieithoedd. Ed yw sefydlydd a chyfarwyddwr artistig Fiction Factory, ac ar hyn o bryd mae'n gweithio ar Y Gwyll / Hinterland, cyfres dditectif wedi ei chynhyrchu yn Saesneg a'r Gymraeg i S4C a'r BBC, a'i dosbarthu'n rhyngwladol gan All3Media. Dros y degawd diwethaf, mae Ed wedi ysgrifennu, cyfarwyddo a chynhyrchu dros gant ac ugain awr o ddrama mewn sawl genre, gan ddenu dros saith deg o enwebiadau a gwobrwyon yn cynnwys rhai gan BAFTA Cymru a Prix Europa. Mae ei raglenni wedi eu dosbarthu i dros wyth deg o wledydd. Mae'r rhain yn cynnwys Satellite City, Silent Village, China, A Mind to Kill, Caerdydd, Pen Talar, Y Pris, Cwmgiedd/Columbia a Gwaith/Cartref. Mae'n byw yng Nghaerdydd.
Erscheint lt. Verlag | 1.7.2015 |
---|---|
Übersetzer | Sharon Morgan |
Verlagsort | Cardigan |
Sprache | Welsh |
Maße | 127 x 203 mm |
Themenwelt | Literatur ► Lyrik / Dramatik ► Dramatik / Theater |
ISBN-10 | 1-910409-00-6 / 1910409006 |
ISBN-13 | 978-1-910409-00-8 / 9781910409008 |
Zustand | Neuware |
Haben Sie eine Frage zum Produkt? |